OPIN-2025-0466 Cefnogi ymgyrch parkwalk gan parkrun ledled Cymru
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 04/04/2025
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi ymgyrch ddiweddaraf parkrun, parkwalk, sy'n cael ei chynnal ledled Cymru a gweddill y DU, hyd at 26 Ebrill 2025.
2. Yn dymuno pob lwc i drefnwyr a gwirfoddolwyr parkrun yn eu nod o dorri'r record ar gyfer nifer y cerddwyr ar draws pob digwyddiad.
3. Yn croesawu'r gwaith a'r cyfraniad y mae parkrun yn ei wneud i annog pobl yng Nghymru a ledled y DU i gael ffordd o fyw fwy iach ac egnïol.
4. Yn llongyfarch ymdrechion y partneriaethau cryf yng Nghymru rhwng parkrun, byrddau iechyd ac amrywiaeth o sefydliadau eraill.