OPIN-2025-0463 Cefnogaeth i bobl Tibet
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 28/03/2025
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi'r cysylltiadau hanesyddol a diwylliannol rhwng Cymru a Tibet.
2. Yn condemnio:
a) colli addysg trwy gyfrwng ieithoedd Tibet; a
b) y defnydd o ysgolion preswyl fel polisi cymhathu gorfodol.
3. Yn cefnogi:
a) hawl gyfreithiol pobl Tibet i gymryd rhan yn eu hiaith a'u diwylliant; a
b) gwaith gweithredwyr Tibet i gadw eu hiaith a'u diwylliant unigryw.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wrthwynebu:
a) gormes trawswladol ar ddiwylliant ac iaith Tibet gan Lywodraeth Tsieina; a
b) monitro rhyngwladol diaspora Tibet.