OPIN-2025-0462 Parc Cenedlaethol newydd ar gyfer gogledd-ddwyrain Cymru
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 14/03/2025
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i Barc Cenedlaethol newydd ar gyfer gogledd-ddwyrain Cymru.
2. Yn cydnabod y bydd Parc Cenedlaethol newydd yn darparu cyfuniad y mae galw mawr amdano o fanteision economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a lleol i ogledd-ddwyrain Cymru.
3. Yn cydnabod y bydd yr ardal, drwy ddynodiad, yn elwa o'r lefelau uchaf o gadwraeth a gwarchod natur.
4. Yn annog Llywodraeth Cymru i amlinellu'r model cyllido ar gyfer y Parc Cenedlaethol.
5. Yn cefnogi creu Parc Cenedlaethol newydd ar gyfer gogledd-ddwyrain Cymru