OPIN-2025-0461 Gwasanaethau prawf yng Nghymru (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/02/2025

Mae'r Senedd hon:
1. Yn cydnabod bod y gwasanaeth prawf, yn ei ffurf bresennol, yn methu pobl Cymru.
2. Yn estyn cydymdeimlad â Nadine Marshall a'r holl deuluoedd y lladdwyd eu hanwyliaid gan unigolion dan oruchwyliaeth y gwasanaeth prawf.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad annibynnol i'r gwasanaeth prawf yng Nghymru
4. Yn galw am wasanaeth prawf datganoledig sy'n diogelu unigolion a chymunedau Cymru.
5. Yn canmol gwaith ymgyrchu diflino Nadine Marshall a VOICE.