OPIN-2025-0460 Gwrthwynebiad i alluogrwydd radar uwch y gofod pell (DARC) yn Sir Benfro
        
        	(e)
        
                Wedi’i gyflwyno ar 29/01/2025
    
    
            Mae'r Senedd hon 
1. Yn nodi: 
a) gwrthwynebiad trigolion Sir Benfro i'r cynnig ar gyfer galluogrwydd radar uwch y gofod pell (DARC) gan y Weinyddiaeth Amddiffyn; 
b) pryderon ynghylch yr effaith weledol a'r effaith ar dwristiaeth yn deillio o 27 o ddysglau radar mawr mewn parc cenedlaethol arfordirol o bwysigrwydd sylweddol yn y DU a threftadaeth genedlaethol yn Nhyddewi gerllaw; 
c) pryderon ynghylch risgiau iechyd a goblygiadau diogelwch rhanbarthol na roddwyd sylw iddynt; a 
d) deiseb gyda 16,000 o lofnodion yn erbyn y cynnig. 
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu asesiad effaith awdurdodol o'r cynllun i roi rhagor o wybodaeth i drigolion a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau.