OPIN-2025-0459 Datblygu Strategaeth Solar i Gymru
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 28/01/2025
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi:
a) bod gosodiad solar wedi cynyddu ar gyfradd arafach ers 2016;
b) bod Japan yn gwneud solar yn angenrheidiol ar dai newydd a gaiff eu hadeiladu gan adeiladwyr tai ar raddfa fawr ar ôl mis Ebrill 2025;
c) bydd solar yn orfodol ar gyfer adeiladau cyhoeddus a masnachol newydd sy'n fwy na 250m2 yn yr UE;
d) bod y Sefydliad Ecoleg Gymhwysol wedi nodi capasiti ar gyfer solar ar hyd ffyrdd, dros feysydd parcio, ac mewn ardaloedd diwydiannol yn yr Almaen;
e) bod systemau solar yn cynnwys 5.5 tunnell o gopr fesul MW; ac
f) pryderon cynyddol am ffermydd solar.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) oedi ceisiadau am solar ar ffermydd;
b) cynnal adolygiad o solar;
c) datblygu strategaeth solar.