OPIN-2025-0457 Gwella Prifysgolion Cymru (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2025

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi:
a) bod prifysgolion Cymru'n ychwanegu gwerth enfawr at ein heconomi a'n cymunedau;
b) bod staff prifysgolion yn wynebu cyfuniad o golli swyddi, rhewi cyflogau a bygythiad o ddiswyddiadau gorfodol, nid yw amodau o'r fath yn bodoli yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ar hyn o bryd ac mae ganddynt oblygiadau difrifol i staff a dysgwyr y prifysgolion;
c) mewn cyferbyniad ag ysgolion, byrddau iechyd neu awdurdodau lleol, mae amodau cystadleuol yn atal prifysgolion rhag siarad yn agored am bwysau ariannol, sy'n eu rhoi dan anfantais; a
d) bod angen cymryd camau i sefydlogi prifysgolion Cymru yn ariannol a bod angen gweithio gyda Llywodraeth y DU i lunio datrysiad hirdymor.