OPIN-2025-0455 Cefnogi ras Llyswyry 8
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 16/01/2025
Mae'r Senedd hon:
1. Yn dymuno pob lwc i'r holl redwyr sy'n cystadlu yn ras boblogaidd Llyswyry 8 ddydd Sul (19 Ionawr), sy'n cael ei chynnal ar Wastadeddau Gwent unigryw a hanesyddol yng Nghasnewydd.
2. Yn nodi hanes balch y digwyddiad a drefnir bob blwyddyn gan Rhedwyr Llyswyry, gyda'r digwyddiad cyntaf yng nghanol yr 80au.
3. Yn canmol ysbryd cymunedol y clwb, lle bydd mwy na 120 o wirfoddolwyr yn cymryd rhan mewn digwyddiad casglu sbwriel blynyddol o ardal Llyswyri cyn y ras ac yn defnyddio'r digwyddiad i godi arian ar gyfer Hosbis Dewi Sant.