OPIN-2025-0454 Cefnogaeth i blant sy'n aros am asesiadau niwroddatblygiadol
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 09/01/2025
Mae'r Senedd hon
1. Yn nodi:
a) yr angen am gyllid ar frys i gefnogi plant a theuluoedd ar restrau aros hir ar gyfer asesiadau niwroddatblygiadol;
b) pwysigrwydd lleihau amseroedd aros;
c) yr angen i ddarparu cymorth iechyd meddwl i bobl ar restrau aros gan fod oedi o ran cael diagnosis yn aml yn arwain at ddiffyg cymorth, sy'n effeithio ar iechyd meddwl a llesiant;
d) y dylai cefnogaeth benodol i rieni a gofalwyr gael ei ddarparu a'i ariannu gan sefydliadau arbenigol fel AP Cymru - Yr Elusen Niwroamrywiaeth;
e) pwysigrwydd hyfforddiant yn yr ysgol gan sefydliadau sydd â phrofiad bywyd go iawn er mwyn i ysgolion allu cefnogi plant cyn, yn ystod ac ar ôl y broses ddiagnostig.