Mae'r Senedd hon:
1. Yn llongyfarch Gweriniaeth Somaliland ar ei hetholiad Arlywyddol a Phleidiau Cenedlaethol llwyddiannus ar 13 Tachwedd.
2. Yn cymeradwyo rôl ganolog y Comisiwn Etholiadol Cenedlaethol.
3. Yn cydnabod Dr. Abdirahman Mohamed Abdillahi yn Arlywydd, Mohamed Ali yn Ddirprwy Arlywydd, a'r pleidiau etholedig: Waddani, Kulmiye, a Kaah.
4. Yn cymeradwyo yr Arlywydd Muse Bihi Abdi am dderbyn y canlyniadau a sicrhau trosglwyddo pŵer yn ddemocrataidd, ac am gynnal etholiad deuol yn ystod ei dymor yn y swydd.
5. Yn croesawu'r cyfle i gryfhau cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Senedd Cymru a Llywodraeth a Senedd Somaliland, gan argymell partneriaethau sefydliadol a gefeillio mentrau i feithrin cydweithredu ar y cyd.