OPIN-2024-0451 Dr Robert Jones, Canolfan Llywodraethiant Cymru a Data Cyfiawnder wedi'i Dadgyfuno ar gyfer Cymru
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2024
Mae'r Senedd hon:
1. Yn cymeradwyo Dr Robert Jones a Llywodraethiant Cymru ar eu gwaith hanfodol o ran sicrhau a chyhoeddi data cyfiawnder ar gyfer Cymru drwy gyflwyno ceisiadau rhyddid gwybodaeth.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyhoeddi data cyfiawnder sydd wedi'i dadgyfuno ar gyfer Cymru, yn rheolaidd.
3. Yn nodi bod data cyfiawnder sydd wedi'i dadgyfuno yn hanfodol er mwyn deall a gwella effeithlonrwydd system gyfiawnder Cymru.
4. Yn galw ar y Weinyddiaeth Gyfiawnder i ddad-wneud y statws 'endid blinderus' a roddwyd i Dr Robert Jones.