OPIN-2024-0450 Pryder cynyddol am y sefyllfa ym Mhacistan (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/12/2024

Mae'r Senedd hon:
1. Yn condemnio'r mesurau llym ar anghydweld gwleidyddol a thrais gwleidyddol a gynhaliwyd gan Lywodraeth Pacistan a waethygodd y mis diwethaf yn Islamabad gyda nifer o farwolaethau.
2. Yn cydnabod y pryder cynyddol ymhlith dinasyddion Cymru sydd â threftadaeth Pacistanaidd, o ran y bygythiad i ddemocratiaeth, y diffyg annibyniaeth yn y farnwriaeth, a chadw carcharorion gwleidyddol ym Mhacistan.
3. Yn galw ar y DU a gwledydd eraill y gorllewin i roi pwysau ar Bacistan
a) i roi diwedd ar ormes gwleidyddol;
b) i adnewyddu democratiaeth;
c) i gynnal cyfraith ryngwladol; a
d) i ryddhau Imran Khan fel y galwodd Gweithgor y Cenhedloedd Unedig amdano ar Gadw Mympwyol.