OPIN-2024-0449 Cefnogi ASH Cymru (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2024

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi'r cynnydd enfawr a wnaed gan ASH Cymru tuag at ddod â'r epidemig tybaco i ben yng Nghymru, sy'n dal i hawlio 3,845 o fywydau bob blwyddyn.
2. Yn cydnabod bod ASH Cymru wedi gweithredu cannoedd o adroddiadau o sigaréts a fêps anghyfreithlon yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, wedi cefnogi cannoedd o atgyfeiriadau i'r gwasanaeth Helpa fi i Stopio, ac wedi goruchwylio a chyflwyno cyngor i filoedd o blant ysgol Cymru.
3. Yn credu bod amddiffyn plant rhag caethiwed marwol yn hanfodol, a chan mai dyma'r unig elusen yng Nghymru sydd wedi'i neilltuo ar gyfer dim ond rheoli tybaco, dylai ASH Cymru gael ei hariannu'n llawn i barhau â'i gwaith hanfodol.