OPIN-2024-0447 Mynd i’r afael â phrinder meddyginiaethau (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/12/2024

Mae’r Senedd hon:
1. Yn cydnabod bod prinder meddyginiaethau yn effeithio’n gynyddol ar dimau gofal cleifion a gofal iechyd yng Nghymru.
2. Yn ddiolchgar am waith caled timau fferylliaeth ledled Cymru wrth gael gafael ar feddyginiaethau a’u cyflenwi.
3. Yn croesawu adroddiad y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol, Medicines shortages: Solutions for empty shelves, sy'n trafod yr achosion a’r effeithiau ac yn gwneud argymhellion i fynd i'r afael â'r cyfnodau hyn o brinder ac i’w rheoli.
4. Yn cefnogi’r prif argymhelliad, sef y dylai fod strategaeth gydlynol ar gyfer llywodraethau a chyrff y GIG ar draws y DU i wella gwytnwch y gadwyn gyflenwi a diogelwch meddyginiaethau.
5. Yn annog Llywodraeth y DU i ddeddfu i ddarparu y caiff fferyllwyr cymunedol wneud mân newidiadau (antherapiwtig) i bresgripsiynau yn ystod cyfnodau o brinder.