OPIN-2024-0446 Cymorth Tanwydd Gaeaf i Bensiynwyr Cymru
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2024
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi:
a) yn ôl Age UK, y gallai 540,000 o bensiynwyr ledled Cymru golli allan oherwydd penderfyniad Llywodraeth y DU i dorri taliadau tanwydd gaeaf i bobl nad ydynt ar gredyd pensiwn neu fudd-daliadau eraill sy'n dibynnu ar brawf modd; ac
b) yn ôl Age Cymru, nad yw 56,000 o aelwydydd yng Nghymru yn cael y credyd pensiwn y maent yn gymwys amdano.
2. Yn gresynu y bydd y toriad hwn yn gwthio miloedd o bensiynwyr i dlodi, yn rhoi iechyd pobl hŷn mewn perygl ac yn rhoi pwysau pellach ar GIG Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn i Lywodraeth y DU wyrdroi'r toriad i daliadau tanwydd gaeaf.