Mae'r Senedd hon:
1. Yn croesawu'r ymgyrch gan Gonsortiwm Manwerthu Cymru ac USDAW, sy'n annog siopwyr i ystyried a pharchu gweithwyr manwerthu y Nadolig hwn.
2. Yn nodi y gall y Nadolig fod yn gyfnod arbennig o heriol, gyda gweithwyr manwerthu yn gweithio'n galed i sicrhau bod y silffoedd wedi'u stocio a chynhyrchion yn cael eu dosbarthu.
3. Yn cydnabod bod camdriniaeth tuag at weithwyr manwerthu wedi cynyddu, gyda ffigyrau gan USDAW yn dangos bod dros ddwy ran o dair wedi profi cam-drin geiriol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
4. Yn cadarnhau bod unrhyw gamdriniaeth yn erbyn cydweithwyr mewn siopau yn gwbl annerbyniol ac ni ddylid ei oddef.
5. Yn cymeradwyo'r fenter gyfrifol a chadarnhaol hon gan gyflogwyr ac undebau llafur fel y gallwn ni i gyd fwynhau'r Nadolig.