OPIN-2024-0443 Diwrnod Hawliau Gofalwyr 2024
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 15/11/2024
Mae'r Senedd hon
1. Yn nodi Diwrnod Hawliau Gofalwyr ar 21 Tachwedd.
2. Yn cydnabod y cyfraniad hollbwysig a wneir gan ofalwyr di-dâl at fywydau’r bobl y maent yn gofalu amdanynt a’n cymdeithas.
3. Yn nodi bod gofalwyr di-dâl yn arbed dros £10 biliwn y flwyddyn i Gymru.
4. Yn nodi canfyddiadau adroddiad 'Track the Act' Gofalwyr Cymru a gyhoeddwyd ar 14 Tachwedd 2024, sy'n dangos bwlch sylweddol rhwng hawliau gofalwyr di-dâl o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a'r realiti yn eu bywydau bob dydd.
5. Yn galw ar gynrychiolwyr etholedig i weithredu ar frys i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn cael ei gweithredu'n effeithiol ac yn gyson.