OPIN-2024-0441 Llwyddiant tîm pêl-droed cenedlaethol menywod
(d)
Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2024
Mae'r Senedd hon:
1. Yn llongyfarch tîm pêl-droed cenedlaethol menywod Cymru ar gyrraedd rownd derfynol y gemau ail gyfle am y tro cyntaf yng Nghystadleuaeth Ewros Menywod UEFA 2025 yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon.
2. Yn cydnabod y datblygiadau a wnaed gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru i godi safonau chwarae, gwella amodau chwarae, ac i sicrhau cyflog cyfartal i'r tîm.
3. Yn galw ar Gymdeithas Bêl-droed Cymru i ymddiheuro am dynnu tîm pêl-droed cenedlaethol menywod Cymru yn ôl rhag chwarae gemau rhagbrofol ar gyfer Cystadleuaeth Ewros Menywod UEFA 2005; diddymu'r tîm rhwng mis Mawrth 2004 a mis Mawrth 2006, a'r effaith ddilynol ar ddatblygu pêl-droed menywod yng Nghymru.