OPIN-2024-0440 Diwrnod COPD y Byd - 20 Tachwedd 2024 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/11/2024

Mae’r Senedd hon:
1. Yn croesawu'r cyfle i dynnu sylw at glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) drwy nodi Diwrnod COPD y Byd ar 20 Tachwedd 2024.
2. Yn nodi bod dros 74,000 o bobl yng Nghymru wedi cael diagnosis o COPD a bod y cyflwr yn costio tua £211 miliwn y flwyddyn i’r GIG yng Nghymru.
3. Yn nodi mai dim ond saith y cant o gleifion COPD, yn ôl Asthma and Lung UK, sy’n cael y pum elfen ofal sylfaenol a argymhellir gan NICE.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun gwella ar gyfer cyflyrau anadlol.