OPIN-2024-0439 Wythnos Heneiddio'n Fwy Diogel (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/11/2024

Mae'r Senedd hon:
1. Yn cydnabod Wythnos Heneiddio'n Fwy Diogel, a gynhelir rhwng 11 a 17 Tachwedd 2024.
2. Yn cydnabod gwaith Hourglass, yr unig elusen ledled y DU sy'n canolbwyntio ar gam-drin ac esgeuluso pobl hŷn.
3. Yn nodi, yn ôl ymchwil ddiweddaraf Hourglass, bod dros £53 miliwn wedi'i ddwyn gan ddioddefwyr sydd wedi goroesi cam-drin economaidd yn ystod y tair blynedd diwethaf, ac mewn dwy ran o dair o achosion o gam-drin economaidd, bod dioddefwyr wedi dioddef sawl math o gam-drin gan gynnwys rheolaeth drwy orfodaeth.
4. Yn nodi ymhellach gyda phryder y cynnydd mewn achosion o gam-drin ac esgeuluso pobl hŷn.
5. Yn credu y dylid cyfeirio mwy o ddarpariaeth tuag at gymorth arbenigol ar gyfer goroeswyr dioddefwyr hŷn.