OPIN-2024-0438 Cynhadledd hinsawdd COP29 y Cenhedloedd Unedig yn Baku
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2024
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi:
a) cynhadledd hinsawdd COP 29 y Cenhedloedd Unedig yn Baku; a
b) bod yr argyfwng hinsawdd yn cael effaith negyddol ar gymunedau ledled Cymru ac yn fyd-eang ac mai'r bobl yr effeithir arnynt fwyaf yw'r rhai yn y de byd-eang sydd wedi gwneud y lleiaf i gyfrannu at yr argyfwng.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) rhoi cyfiawnder hinsawdd a chyfrifoldeb byd-eang wrth wraidd pob polisi cyhoeddus, gan gynnwys caffael, masnach, pensiynau, ac addysg;
b) llywio'r pontio i economi sero-net ar frys ac yn gyfiawn; ac
c) dangos arweinyddiaeth o ran hyrwyddo colled a difrod, gan eirioli am iawndal teg a digonol i gymunedau yr effeithir arnynt.