OPIN-2024-0437 Achos cyfreithiol Unite the Union yn erbyn Llywodraeth y DU (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/11/2024

Mae'r Senedd hon:
1. Yn croesawu ac yn cefnogi'r broses adolygiad barnwrol sy'n cael ei chynnal gan Unite the Union yn erbyn Llywodraeth y DU.
2. Yn nodi bod Unite the Union wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o weithredu'n anghyfreithlon gyda'i phenderfyniad i newid cymhwysedd ar gyfer taliadau tanwydd gaeaf drwy fethu â chynnal asesiad llawn o effaith y polisi.
3. Yn gresynu na fydd tua 10 miliwn o bensiynwyr yng Nghymru a Lloegr nad ydynt ar gredyd pensiwn neu fudd-daliadau prawf modd eraill bellach yn derbyn taliadau tanwydd gaeaf blynyddol.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wyrdroi ei phenderfyniad i leihau cymwysedd ar gyfer taliadau tanwydd gaeaf.