OPIN-2024-0436 Diogelu Gwastadeddau Gwent (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2024

Mae'r Senedd hon:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd amgylcheddol Gwastadeddau Gwent i Gymru gyda'u SoDdGA niferus a'u bioamrywiaeth unigryw.
2. Yn nodi bod y Gwastadeddau wedi'u datgan yn dirwedd hynafol gydag arwyddocâd diwylliannol arbennig gan Lywodraeth Cymru.
3. Yn mynegi pryder dwys bod y Gwastadeddau yn dod o dan bwysau cynyddol o ran llu o geisiadau ffermydd solar, gyda'r risg o newid andwyol i natur y Gwastadeddau.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn ei gallu i gryfhau polisi cynllunio a diogelu'r Gwastadeddau.
5. Yn cymeradwyo'r 6,000 o bobl a lofnododd ddeiseb Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent 'Atal datblygiadau newydd sylweddol ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Gwastadeddau Gwent'.