OPIN-2024-0435 Cyfeillion y Ddaear - Pen-blwydd 40
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2024
Mae'r Senedd hon:
1. Yn llongyfarch Cyfeillion y Ddaear Cymru ar ei ben-blwydd yn 40 oed a chyflawni pedwar degawd o weithredu ar yr hinsawdd.
2. Yn nodi bod Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi'i sefydlu ym Mhorthcawl ym 1984, bod ganddo rwydwaith o grwpiau gweithredu lleol gwirfoddol ledled Cymru, a'i fod yn rhan o rwydwaith byd-eang sy'n ymgyrchu dros ddyfodol cyfiawn a chynaliadwy i bobl a'r blaned.
3. Yn cydnabod mai'r argyfyngau hinsawdd a natur yw'r materion mwyaf brys sy'n wynebu ein planed.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a'r Senedd i weithredu ar draws pob sector i ymdrin â'r argyfyngau hinsawdd a natur.