OPIN-2024-0434 Gwrthdaro yn y Dwyrain Canol
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 04/10/2024
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi bod blwyddyn wedi mynd heibio ers ymosodiad Hamas ar Israel, a bod ymateb milwrol Israel wedi arwain at 12 mis o ddioddefaint a 40,000 o farwolaethau ymhlith sifiliaid yn Gaza yn groes i gyfraith ryngwladol.
2. Yn parhau i gefnogi galwadau am gadoediad ar unwaith ac am ryddhau'r holl wystlon.
3. Yn gresynu at ymosodiad Israel ar Libanus ac ymosodiad taflegrau Iran, ac yn galw ar yr holl bartïon i atal rhyfela.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno'r achos i Lywodraeth y DU ac ar y llwyfan rhyngwladol dros embargo llawn ar arfau, darparu cymorth dyngarol, dad-ddwysáu, a heddwch parhaol drwy ddiplomyddiaeth.