Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi Wythnos Cadw Eich Plentyn yn Ddiogel mewn Chwaraeon 2024 NSPCC rhwng 7 a 11 Hydref.
2. Yn cefnogi gwaith Uned Amddiffyn Plant mewn Chwaraeon NSPCC.
3. Yn cydnabod pwysigrwydd cadw plant yn ddiogel a datblygu cymunedau diogel i blant o fewn clybiau chwaraeon.
4. Yn croesawu'r gweithgareddau ledled Cymru i ymgysylltu ag Wythnos Cadw Eich Plentyn yn Ddiogel mewn Chwaraeon.
5. Yn dathlu uchelgeisiau Wythnos Cadw Eich Plentyn yn Ddiogel mewn Chwaraeon i ddod â chymunedau chwaraeon at ei gilydd i hyrwyddo arferion agored a chynhwysiant o fewn chwaraeon.
6. Yn annog timau a chlybiau chwaraeon i gymryd rhan yn Wythnos Cadw Eich Plentyn yn Ddiogel mewn Chwaraeon drwy ddod at ei gilydd fel tîm a rhannu arferion da.