OPIN-2024-0432 Cyflawni ar Deithio Llesol yng Nghymru
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 27/09/2024
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi:
a) bod adroddiad 'Teithio Llesol' Archwilio Cymru yn nodi argymhellion pwysig ar gyfer teithio llesol yng Nghymru;
b) yr ymrwymiad a wnaeth y Senedd i deithio llesol pan basiodd Ddeddf 2013 yn unfrydol; ac
c) bod newid i deithio llesol yn hanfodol i gyrraedd targedau sero net, yn ogystal â chynnig llawer o fuddion eraill
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cydnabod natur hirdymor newid ymddygiad teithio a'r angen i gynnal rhaglen fuddsoddi; a
b) sicrhau bod y Cynllun Cyflawni ar gyfer Teithio Llesol yn cael yr adnoddau priodol a'i fonitro'n briodol fel yr argymhellir gan Archwilio Cymru.