OPIN-2024-0431 Mis Ymwybyddiaeth Canser Plentyndod
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 26/09/2024
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi bod mis Medi yn Fis Ymwybyddiaeth Canser Plentyndod, ac yn cydnabod yr effaith unigryw y mae canser yn ei chael ar tua 180 o blant a phobl ifanc (o dan 25 oed) sy'n cael diagnosis bob blwyddyn yng Nghymru.
2. Yn cydnabod eu hanghenion penodol, gan gynnwys triniaeth a gofal arbenigol, teithio sylweddol i ganolfannau triniaeth, ac effeithiau iechyd meddwl.
3. Yn cydnabod mai canser yw prif achos marwolaeth sy'n gysylltiedig â chlefyd yn y grŵp oedran hwn.
4. Yn cydnabod rôl hanfodol elusennau wrth ddarparu cymorth hanfodol i blant, pobl ifanc a theuluoedd.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod a mynd i'r afael â'u hanghenion unigryw i wella canlyniadau a phrofiadau.