OPIN-2024-0428 Ymchwiliad Tŵr Grenfell (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2024

Mae’r Senedd hon:
1. Yn nodi canfyddiadau’r adroddiad ar ail gam ymchwiliad Tŵr Grenfell.
2. Yn gresynu at ddegawdau o fethiant gan Lywodraeth y DU, yr awdurdod lleol, Gwasanaeth Achredu y Deyrnas Unedig ac arweinyddiaeth Brigâd Dân Llundain, ymhlith cyrff eraill, a arweiniodd at farwolaethau trasig.
3. Yn nodi pryderon ymgyrchwyr y gallai adeiladau uchel yng Nghymru fod yr un mor agored i dân, ac nad yw cyrff lleol wedi'u paratoi'n ddigonol ar gyfer hyn.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu canfyddiadau’r adroddiad ar ail gam yr ymchwiliad, yn enwedig o ran tynhau rheoliadau diogelwch tân.