OPIN-2024-0427 Masnach Deg yn 30 oed
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2024
Mae’r Senedd hon:
1. Yn nodi:
a) bod Pythefnos Masnach Deg yn rhedeg rhwng 9 Medi a 22 Medi;
b) mai’r thema eleni yw ‘Byddwch y Newid’, sy'n annog pobl i ddewis cynnyrch Masnach Deg a chodi llais dros fasnach decach; ac
c) mai Cymru oedd Cenedl Masnach Deg gyntaf y byd 16 mlynedd yn ôl.
2. Yn llongyfarch mudiad Masnach Deg ar ei ben-blwydd yn 30 oed.
3. Yn tynnu sylw at y manteision a brofwyd gan ffermwyr a gweithwyr ar draws y byd o ganlyniad i 30 mlynedd o gydweithio o dan y nod Masnach Deg.