OPIN-2024-0426 Dathlu cneifio a llongyfarch tîm Cymru (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2024

Mae’r Senedd hon:
1. Yn nodi pwysigrwydd amaethyddiaeth i Gymru, yn economaidd ac yn ddiwylliannol.
2. Yn nodi hanes hir ffermio defaid yng Nghymru.
3. Yn nodi pwysigrwydd cneifio da ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid.
4. Yn cydnabod gwaith caled trefnwyr Cneifio Corwen Shears, Cneifio Cothi Shears, Sioe Frenhinol Cymru, a phob cystadleuaeth cneifio arall yng Nghymru.
5. Yn cydnabod sgiliau cneifwyr a thrinwyr gwlân.
6. Yn llongyfarch tîm Cneifio Cymru ar ennill y gyfres gneifio 2-1 yn erbyn Aotearoa/Seland Newydd.