OPIN-2024-0425 Llongyfarch Medi Harris yn dilyn Gemau Olympaidd Paris (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2024

Mae’r Senedd hon:
1. Yn nodi bod yr unig byllau nofio maint Olympaidd yng Nghymru yn Abertawe ac yng Nghaerdydd a bod rhaid i bob nofiwr elît o'r gogledd, y canolbarth a'r gorllewin deithio pellteroedd mawr i hyfforddi a chystadlu.
2. Yn cymeradwyo ymroddiad athletwyr elît a'u teuluoedd wrth iddynt gymryd rhan mewn chwaraeon elît.
3. Yn llongyfarch Medi Harris o Borth-y-Gest, Porthmadog, ar ei llwyddiant wrth nofio a'i chyfranogiad yn y Gemau Olympaidd eleni ym Mharis.