OPIN-2024-0424 Iawn ariannol i fenywod a anwyd yn y 1950au (e) Datganodd yr Aelod fuddiant Wedi’i gyflwyno ar 19/07/2024

Mae'r Senedd hon:
1. Yn cefnogi'r galwadau am:
a) iawn ariannol i fenywod a anwyd yn y 1950au y mae newidiadau yn oedran pensiwn y wladwriaeth wedi cael effaith negyddol arnynt; a
b) cyfryngu rhwng rhwng holl grwpiau menywod y 1950au a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau cyn gynted â phosibl.
2. Yn nodi bod:
a) y pwnc yn gymhleth o ganlyniad i gamweinyddu; a
b) ni wnaeth ymchwiliad yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd ystyried gwahaniaethu uniongyrchol a dileu 10 mlynedd o gamweinyddu.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ystyried taliadau ar ôl marwolaeth gan fod cynifer o fenywod wedi marw cyn i'r mater hwn gael ei ddatrys.