OPIN-2024-0423 Galwadau am weithreud i fynd i'r afael â chemegion 'am byth'
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 19/07/2024
Mae'r Senedd hon:
1. Yn cydnabod gwaddol gwastraff cemegol yn y cymoedd, sy'n gwenwyno'r tir.
2. Yn galw am ymateb cenedlaethol i fynd i'r afael â phroblemau a grëwyd gan gemegion 'am byth', ac i gyrff cyhoeddus gydweithio i gefnogi'r cymunedau yr effeithir arnynt.
3. Yn nodi helynt Ynysddu yn Nwyrain De Cymru sydd, ynghyd â chymunedau eraill ledled Cymru, wedi gorfod ymdopi â gwaddol biffenylau polyclorinedig, sy'n dal i halogi'r dŵr a'r dirwedd.
4. Yn llongyfarch ymgyrchwyr lleol a Michael Sheen, yr actor ac actifydd, am dynnu sylw at y sgandal hon.
5. Yn nodi bod cynhyrchu'r cemegion hyn wedi'i wahardd mewn 151 o wledydd, gan gynnwys y DU.