OPIN-2024-0422 150 mlynedd o Fyddin yr Iachawdwriaeth yng Nghymru (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/07/2024

Mae'r Senedd hon:
1. Yn llongyfarch Byddin yr Iachawdwriaeth ar nodi 150 mlynedd o waith y sefydliad yng Nghymru.
2. Yn nodi hanes Byddin yr Iachawdwriaeth yng Nghymru, a ddechreuodd ar 11 Tachwedd 1874 yn Neuadd y Bobl ar Stryd Bute, Caerdydd. Dechreuwyd yr eglwys addoli gymunedol gan y cenhadwr Cristnogol John Allen. Dilynwyd hynny gan gorfflu yn Neuadd Stuart Caerdydd, Caerdydd 1 a Threlái Caerdydd. Ym 1877, agorwyd Teml y Rhath Caerdydd cyn i gorfflu Merthyr Tudful gael ei sefydlu flwyddyn yn ddiweddarach.
3. Yn dymuno llwyddiant i Fyddin yr Iachawdwriaeth yn ei dathliad nodedig ac yn ei gwaith parhaus yng Nghymru.