OPIN-2024-0420 Diwrnod Cenedlaethol y Dolydd
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 02/07/2024
Mae’r Senedd hon:
1. Yn cydnabod Diwrnod Cenedlaethol y Dolydd ar 6 Gorffennaf 2024.
2. Yn cydnabod y gwaith hanfodol a wneir gan bobl yng Nghymru sy’n ganolog i greu dolydd a rheoli glaswelltiroedd sy’n llawn rhywogaethau gwahanol; o ffermwyr a rheolwyr tir, i awdurdodau lleol sy'n rheoli ymylon ffyrdd sydd â chyfoeth o fywyd gwyllt, a chymunedau lleol sy'n gofalu am ddolydd trefol a mannau gwyrdd o laswelltir.
3. Yn cydnabod bod dolydd a glaswelltiroedd sy’n llawn rhywogaethau gwahanol yn cefnogi bywoliaeth mewn ardaloedd gwledig, adfer natur, lliniaru ar newid hinsawdd ac addasu ar ei gyfer, cynhyrchu bwyd cynaliadwy, ac iechyd a llesiant.