OPIN-2024-0419 Wythnos Hosbisau Plant
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2024
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi pa mor hanfodol bwysig yw Hosbisau Plant a'r gwaith y maent yn ei wneud yng Nghymru.
2. Yn cydnabod bod 3655 o blant yn byw yng Nghymru sydd â chyflwr sy'n byrhau bywyd neu'n peryglu bywyd.
3. Yn nodi bod tua 10 y cant o'r plant hyn yn cael gofal lliniarol a gofal diwedd oes drwy hosbis plant.
4. Yn nodi mai dim ond 12 y cant o gostau gofal hosbisau plant Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith y mae Llywodraeth Cymru yn eu talu.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i dalu 21 y cant o gostau gofal Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith mewn modd hirdymor, cynaliadwy a theg.