OPIN-2024-0417 Wythnos Gofalwyr 2024
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 10/06/2024
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi Wythnos Gofalwyr 2024 (10-16 Mehefin) a’r thema eleni, sef Rhoi Gofalwyr ar y Map.
2. Yn cydnabod y cyfraniad hollbwysig a wneir gan ofalwyr di-dâl at fywydau’r bobl y maent yn gofalu amdanynt a’n cymdeithas, ac yn diolch iddynt am y rôl y maent yn ei chwarae.
3. Yn cydnabod yr heriau amrywiol y mae nifer o ofalwyr di-dâl yn eu hwynebu bob dydd.
4. Yn nodi canfyddiadau adroddiad Wythnos Gofalwyr 2024, No choice but to care.
5. Yn croesawu’r gweithgarwch ledled Cymru i ddathlu Wythnos Gofalwyr 2024.
6. Yn galw ar gynrychiolwyr etholedig i ystyried pa mor bwysig yw gofalwyr di-dâl a sut i’w cefnogi’n well.