OPIN-2024-0415 Diwrnod Aer Glân 2024 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/06/2024

Mae'r Senedd hon:
1. Yn croesawu'r cyfle i ddathlu gwaith Awyr Iach Cymru ar Ddiwrnod Aer Glân ar 20 Mehefin 2024.
2. Yn nodi:
a) bod bron i 2,000 o bobl yn marw bob blwyddyn yng Nghymru oherwydd deunydd gronynnol a llygryddion eraill; a
b) bod tystiolaeth i awgrymu bod ansawdd aer gwael yn gysylltiedig â chyflyrau gan gynnwys asthma, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, clefyd y galon, a dementia.
3. Yn dathlu bod Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 yn cael ei deddfu a'r ymrwymiad i leihau nitrogen deuocsid a deunydd gronynnol.
4. Yn galw ar bob plaid i gydweithio i sicrhau bod y Ddeddf yn gwella ansawdd aer yng Nghymru.