OPIN-2024-0414 Darparu gwybodaeth gyhoeddus (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/06/2024

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi gyda phryder y gred gan sefydliadau cyhoeddus a phreifat y dylid darparu pob gwybodaeth ar-lein.
2. Yn nodi ymhellach bod Arolwg Cenedlaethol Cymru 2019-20 wedi canfod nad yw 10 y cant o bobl Cymru yn defnyddio'r rhyngrwyd.
3. Yn credu bod darparu gwybodaeth drwy ddulliau ysgrifenedig yn bwysig i lawer o bobl.
4. Yn cefnogi y dylid darparu hysbysiadau cyhoeddus cynghorau mewn papurau newydd lleol.