OPIN-2024-0412 Hanner canmlwyddiant TUC Cymru (Cyngres yr Undebau Llafur Cymru) (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/05/2024

Mae’r Senedd hon:
1. Yn llongyfarch TUC Cymru (Cyngres yr Undebau Llafur Cymru) ar ei hanner canmlwyddiant, ac yn nodi'r 400,000 o weithwyr yn y 48 o aelod undebau y mae'n eu cynrychioli.
2. Yn cymeradwyo gwaith mudiad yr undebau llafur yng Nghymru am fod ar flaen y gad wrth bwyso am newid blaengar – yr isafswm cyflog, hawliau cryfach i weithwyr, cronfa ddysgu’r undebau ac ati
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol gyda'n hundebau llafur, gan weithio tuag at y nod o greu Cymru decach a mwy cyfartal.