OPIN-2024-0411 Cydnabod Somaliland yn rhyngwladol (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/05/2024

Mae’r Senedd hon:
1. Yn cydnabod y cysylltiadau hanesyddol rhwng Somaliland a Chymru.
2. Yn cydnabod bod 33 mlynedd wedi mynd heibio ers i Somaliland ddatgan ei hannibyniaeth ar Weriniaeth Ddemocrataidd Somalia.
3. Yn cydnabod ac yn cefnogi ymrwymiad y weriniaeth de facto honno i hawliau dynol ac etholiadau rhydd.
4. Yn nodi bod y sefydliad ar gyfer cenhedloedd a phobl heb gynrychiolaeth (UNPO) yn ystyried bod Somaliland yn diriogaeth ddiffiniedig sydd â phoblogaeth barhaol a’r capasiti i ddatblygu cysylltiadau â gwladwriaethau eraill.
5. Yn nodi ymhellach fod gan y ddarpar wladwriaeth ei harian cyfred, ei baner, ei senedd a’i hunaniaeth genedlaethol ei hun, a’i bod yn cynnal etholiadau democrataidd.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barchu cais Somaliland o ran ymreolaeth ac i gydnabod ei hannibyniaeth.