OPIN-2024-0410 76 mlynedd yn ddiweddarach - Cofio'r Nakba "Y Trychineb Parhaus" (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/05/2024

Mae'r Senedd hon:
1. Yn cofio'r oddeutu 750,000 o Balesteiniaid a ffodd neu a ddiarddelwyd o'u cartrefi yn ystod y Nakba ym 1948 ac
2. Yn drist iawn ac yn bryderus am ddigwyddiadau cyfredol, gwrthdaro, colli bywydau ac anafiadau yn Israel a thiriogaethau Palesteina sydd wedi'u meddiannu.
3. Yn cydnabod y dadfeddiannu a'r marwolaethau parhaus a ddioddefir gan Balesteiniaid, a'r trychineb dynol parhaus.
4. Yn gofyn i Lywodraeth Cymru bwyso ar Lywodraeth y DU i gefnogi ymdrechion negodi a defnyddio pob ymdrech tuag at heddwch a chyfiawnder parhaol rhwng Palesteiniaid ac Israeliaid.