OPIN-2024-0409 Llongyfarch Lauren Price ar ei Lllwyddiant Chwaraeon Diweddaraf. (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/05/2024

Mae'r Senedd hon:
1. Yn llongyfarch Lauren Price o Ystrad Mynach wedi iddi ennill teitlau pwysau welter WBA, IBO a'r cylchgrawn 'The Ring'.
2. Yn cydnabod bod Lauren wedi creu hanes drwy fod y fenyw gyntaf o Gymru i ddod yn focsiwr proffesiynol pencampwr y byd.
3. Yn nodi bod Lauren, yn dilyn llwyddiant chwaraeon mewn pêl-droed rhyngwladol a chicfocsio o'r radd flaenaf - yn ogystal ag ennill medal aur mewn bocsio Olympaidd - yn fodel rôl gwych oherwydd ei hymroddiad, ei thalent a'i hagwedd.
4. Yn galw ar Lauren i gael ei chynnwys yn rhestr fer Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC.