OPIN-2024-0408 Diwrnod Clefyd Llid y Coluddyn y Byd 2024 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/05/2024

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi bod Crohn's a colitis yn glefydau cronig difrifol sy'n effeithio ar 1 o bob 127 o bobl yng Nghymru.
2. Yn gresynu bod y clefydau hyn yn cael eu camddeall, gyda symptomau fel poen yn yr abdomen a blinder yn cael eu diystyru'n aml.
3. Yn nodi bod Diwrnod Clefyd Llid y Coluddyn y Byd ar 19 Mai yn gyfle i godi ymwybyddiaeth am effaith byw gyda Crohn's a colitis.
4. Yn croesawu gwybodaeth a chefnogaeth i gleifion gan Crohn's & Colitis UK, sy'n helpu pobl i gyda gwell dealltwriaeth o'u diagnosis, meddyginiaethau, byw gyda'r cyflwr a sut y gallai effeithio ar eu bywydau.
5. Yn annog Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr proffesiynol cyhoeddus a gofal iechyd i gefnogi diagnosis cynharach.