OPIN-2024-0407 Y Faner Frenhinol
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 16/05/2024
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi y bydd yn flwyddyn ers coroni Ei Fawrhydi y Brenin Charles III ym mis Mai.
2. Yn gresynu nad yw Cymru, yn wahanol i wledydd eraill y DU, yn cael ei chynrychioli ym Maner Frenhinol y Deyrnas Unedig.
3. Yn credu y dylai draig goch Cymru gymryd lle un o'r ddau gwadrant sy'n cynrychioli Lloegr ar y Faner Frenhinol.