OPIN-2024-0406 Opera Cenedlaethol Cymru (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/05/2024

Mae'r Senedd hon:
1. Yn credu bod Opera Cenedlaethol Cymru yn fyd-enwog am ei ragoriaeth, ei berfformiadau a'i allgymorth.
2. Yn cydnabod yr heriau sy'n gysylltiedig â chyni cyllidol a'r toriadau a wnaed fel rhan o'r cytundeb cyllido rhwng y ddwy genedl.
3. Yn pryderu am yr effaith y byddai Opera Cenedlaethol Cymru rhan-amser ar raddfa lai yn ei chael ar sgiliau a thalent ar draws y sefydliad.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio ar frys gyda phartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth y DU, i geisio sicrhau trefniadau cyllido rhwng y ddwy genedl a fydd yn helpu Opera Cenedlaethol Cymru i barhau i fod yn sefydliad amser llawn yn y tymor byr a'r tymor canolig, hyd nes y gellir rhoi cynlluniau cynaliadwy ar waith ar gyfer y tymor hwy.