OPIN-2024-0405 Mae Clefyd Seliag yn Wahanol i Bawb (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/05/2024

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi bod clefyd seliag yn gyflwr awto-imiwn difrifol sy'n effeithio ar 1 o bob 100 o bobl.
2. Yn gresynu nad yw tua dwy ran o dair o bobl sy'n byw gyda chlefyd seliag yng Nghymru, tua 20,000 o bobl, wedi cael diagnosis eto.
3. Yn cydnabod mai'r amser aros cyfartalog ar gyfer cael diagnosis o glefyd seliag i oedolion yng Nghymru yw 13 mlynedd o ddechrau'r symptomau.
4. Yn croesawu lansiad Mis Ymwybyddiaeth Coeliac UK, 'Coeliac Disease is Different for Everyone', sydd â'r nod o dynnu sylw at bwysigrwydd cael diagnosis.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried gwahanol fentrau i hwyluso ac annog diagnosis cynharach.