OPIN-2024-0404 Sêr Snwcer Cymru (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/05/2024

Mae'r Senedd hon:
1. Yn llongyfarch Jak Jones o Gwmbrân ar gyrraedd rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd 2024.
2. Yn cydnabod y cyfraniadau rhagorol i snwcer a wnaed gan bobl eraill o Ddwyrain De Cymru, gan gynnwys Ray Reardon, Doug Mountjoy, Darren Morgan, a Mark Williams, yn ogystal â'r pleser aruthrol y mae snwcer yn ei roi i chwaraewyr a gwylwyr ledled Cymru.