OPIN-2024-0402 Eich Meddyginiaethau, Eich Iechyd.
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 26/04/2024
Mae'r Senedd hon:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd cymryd meddyginiaethau rhagnodedig yn gywir, a'r angen i ofyn am gyngor meddygol os na allwch wneud hynny.
2. Yn canmol gwaith ymgyrch Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Eich Meddyginiaethau, Eich Iechyd.
3. Yn croesawu gwaith Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain wrth gynhyrchu deunydd dwyieithog i blant ynghylch pwysigrwydd cymryd meddyginiaeth ar amser, sy'n dilyn Ellie, sydd, gyda'i mam, yn ceisio cyngor meddygol gan fferyllydd ar gyfer ei hen fodryb Betsi.
4. Yn annog y neges syml i'w "cymryd os y gallwch chi, dywedwch wrthym os na allwch chi" a sicrhau bod eraill yn gwneud yr un peth.